Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - trafodaethau grŵp ffocws gyda rhanddeiliaid, 25 Ionawr 2018


Trafodaethau gyda chynrychiolwyr Ramblers Cymru, Plant yng Nghymru, Chwarae Cymru a'r Sefydliad Iechyd Meddwl

 

Rhwystrau

·         Angen edrych ar yr hyn sy'n achosi i blant beidio â bod yn gorfforol egnïol.

·         Yn yr ysgol uwchradd, yr un amlwg yw pwysau gan gyfoedion. Os mai chi yw'r unig un yn eich grŵp sydd â diddordeb mewn bod yn gorfforol egnïol yna mae'n anodd cymryd rhan.

·         Rhai o'r rhwystrau - emosiynol neu gymdeithasol - sy'n atal pobl ifanc rhag bod yn gorfforol egnïol, er enghraifft bod dros bwysau neu fod â chreithiau o ganlyniad i  hunan-niweidio, ddim yn dda iawn mewn chwaraeon (hunan-barch isel).

·         Effaith tlodi - cymunedau heb gyfle hy dim ardaloedd chwarae neu leoedd i fynd iddynt; fodd bynnag, mae rhai ardaloedd sy'n fwy difreintiedig yn economaidd gymdeithasol yn sôn am fwy o gyfleoedd chwarae.

·          Nid oes arwyddion da ar lwybrau troed. Nid yw pobl yn hyderus i ddefnyddio'r llwybrau.

·         Deilliannau sy’n gyrru'r ddarpariaeth gwasanaeth; os ydych chi'n gosod y deilliannau fel cael mathemateg a Saesneg, dyna fydd yr ysgolion yn canolbwyntio arno.

·         Enghraifft o ddwy ferch a oedd am chwarae pêl-droed ond yn wynebu agweddau gwahaniaethol gan fechgyn yn y tîm; nid oedd yr hyfforddwr yn helpu gan ei fod yn eu dewis nhw olaf oherwydd eu bod yn ferched.

 

Rôl oedolion/rhieni/teuluoedd

·         Mae oedolion yn llai goddefgar o ran plant yn chwarae tu allan (dim arwyddion gemau pêl, ac ati).

·         Mae rhieni'n fwy ofnus am eu plant yn chwarae tu allan naill ai oherwydd peryglon posibl neu oherwydd agweddau pobl eraill (cael eu gweld fel niwsans).

·         Weithiau nid oes gan rieni sy'n gweithio'n llawn amser yr egni i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol; nid ydynt yn fodelau rôl da.

·         Angen dull 'teulu cyfan'.

 

Effeithiolrwydd addysg chwaraeon mewn ysgolion uwchradd

·         Nid yw'r amgylchedd yn addas ar gyfer gweithgarwch annibynnol yn enwedig ar gyfer y grŵp oedran iau.

·         Mae’r ffocws ar gyrhaeddiad a chyflawniad.

·         Gall amser cinio fod yn fyr iawn - mae rhai plant yn methu cinio/cael byrbryd fel bod ganddynt fwy o amser i chwarae.

·         Dydy rhai ysgolion ddim yn gweithredu eu cardiau prydau ysgol am ddim tan amser cinio, felly mae rhai plant yn mynd heb fwyd drwy'r bore - nid yw hynny’n dda ar gyfer lefelau egni.

 

Oriau ysgol

·         Ddim o reidrwydd yn cytuno ag ymestyn y diwrnod ysgol ond hoffwn weld un prynhawn yr wythnos yn cael ei neilltuo ar gyfer 'amser gweithgarwch'.

·         Yn hoffi gweld mynediad am ddim at gyfleusterau ar ôl oriau ysgol (mae Chwarae Cymru wedi bod yn gweithio gyda theuluoedd yn Butetown i ddarparu mynediad i faes chwarae'r ysgol am awr ar ôl ysgol).

·         Gellid cyflwyno'r Pum Ffordd at Lesiant yn ystod hyfforddi darpar athrawon.

·         Bydd yr adolygiad o’r cwricwlwm yn darparu cyfleoedd ar gyfer newid.

·         Nid oes angen i chi fesur yr effaith y caiff gweithgarwch corfforol ar blant ond mae angen bod yn greadigol ynghylch yr hyn a fesurwn.

·         Ni fydd y plant yn dysgu oni bai eu bod mewn lle da yn feddyliol.

·         Yn aml, y plant sydd â phroblemau iechyd meddwl/problemau ymddygiadol yw'r rhai a gedwir i mewn yn ystod amser egwyl fel cosb am amharu ar ddosbarthiadau ond nhw yw’r mwyaf tebygol o elwa o weithgarwch corfforol.

·         Hefyd, mae problem ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol gan fod hyfforddiant/cymorth ychwanegol yn digwydd yn aml yn ystod amser egwyl/amser cinio.

 

Blaenoriaethau

·         Angen cydraddoldeb rhwng llesiant corfforol ac emosiynol a chymdeithasol.

·         Methu mynd i'r afael â gordewdra yn unig.

·         Cydnabod manteision gweithgarwch ar iechyd meddwl.

·         Pum ffordd at lesiant - mae angen cael dealltwriaeth ar draws pawb sy'n gweithio gyda phlant (addysg, gofal cymdeithasol, iechyd, ac ati).

·         Nid yw’n ymwneud ag ysgolion yn unig - os oes gan rieni arferion gwael mae hynny’n adlewyrchu ar y plant. Rhaid mynd i'r afael â’r peth yn gyffredinol.

·         Mae angen golwg systemig ar weithgarwch corfforol.

·         Dylai fod yn ymwneud â chwaraeon i bawb nid chwaraeon er rhagoriaeth.

·         Angen canfod cydbwysedd rhwng y rhai sy'n rhagori a'r gweddill.

·         Beth am ddeilliannau ar gyfer ffitrwydd a llesiant emosiynol? Pum Ffordd at Lesiant - defnyddiwch y rheini fel mesurau i edrych ar sut mae hynny'n gweithio o fewn ysgolion.

 

Addysg Gorfforol yn y cwricwlwm

·         Ymestyn y diwrnod ysgol i ganiatáu mwy o weithgarwch corfforol – byddai’n anodd iawn i athrawon - byddai angen i athrawon dderbyn y syniad. Gallai fod yn gostus pe bai'n ffurfiol.

·         Byddai gwell defnydd a mynediad i dir yr ysgol i blant wneud yr hyn maen nhw am ei wneud yn y gofod hwnnw - yn cyfrannu at well ymdeimlad o gymuned.

·         Angen galluogi pobl ifanc i wneud rhywbeth y tu allan i'r ysgol. Nid yw bod yn gorfforol egnïol yn ymwneud â chael lle ar dîm ond am wneud rhywbeth sy'n rhoi pleser i chi.

·         Dylai’r pwyslais fod ar fwynhad a hwyl.

·         Mae'r ymgyrch Milltir y Dydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn ond dim ond ar lefel ysgol gynradd y mae’n bodoli.

·         Mae angen i ysgolion allu cynnig pethau sy'n gorfforol egnïol ond nid o reidrwydd yn chwaraeon ee dawnsio.

·         ADY - mae angen sicrhau bod pob plentyn yn gallu cymryd rhan.

 

Chwarae fel gweithgaredd

·         Mae ffocws ar chwarae yn bwysig. Mae'n cyfrannu at iechyd meddwl a chydlyniant cymunedol.

·         Nid oes gennym astudiaethau hydredol ar lefelau gweithgarwch trwy chwarae ond gwyddom fod chwarae yn cyfrannu at lefel gweithgarwch corfforol plant.

·         Pan fydd plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, dim ond 11 oed ydyn nhw ac maent am gael cyfleoedd i chwarae o hyd.

·         Mae tueddiadau cymdeithasol modern wedi lleihau’r tebygolrwydd y bydd plant yn chwarae - mwy o ddefnydd o'r sgrin, cymdogaethau lle mae cyflymder a swm y traffig wedi cynyddu. Angen edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ein cymunedau i atal plant rhag chwarae tu allan.

·         Cyfraniad yr amgylchedd lleol - swm a chyflymder traffig, ceir wedi'u parcio, dim lle i chwarae.

·         Mae Chwarae Cymru wedi datblygu pecyn cymorth i gefnogi awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, gwleidyddion ar bob lefel, cynllunwyr mannau agored, cymdeithasau tai a rheolwyr parciau a meysydd chwarae wrth ddatblygu ac uwchraddio mannau chwarae hygyrch.

·         Maent hefyd wedi treialu cynllun mewn rhan o Gaerdydd dros yr haf lle cafodd y stryd ei chau yn rhannol am nifer o oriau i ganiatáu i blant chwarae.

 

Argymhellion

·         Ymgyrch iechyd y cyhoedd sy'n rhan o  hyfforddiant unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i feddwl am iechyd a llesiant meddyliol.

·         Cymhellion i ysgolion.

·         Dyfeisio KPIs mesuradwy i gynnwys llythrennedd emosiynol.

 

Trafodaethau gyda chynrychiolwyr Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru,

Criced Morgannwg a Chriced Cymru, a Phêl-rwyd Cymru

 

Profiadau i blant

·         Mae'r profiad cyntaf i berson ifanc yn allweddol, ac mae'r profiad cyntaf hwnnw yn aml o fewn yr amgylchedd ysgol.

·         Dylai chwaraeon a gweithgarwch egnïol fod yn hwyl, yn gymdeithasol ac yn bleserus ac yna bydd plant yn parhau i’w wneud.

·         Mae angen i ni annog plant i 'roi cynnig arni', ac mae angen i ni annog a hyrwyddo gwaith tîm.

·         Ni fydd mwyafrif y plant yn cael eu hunain ar bodiwm felly mae'n bwysig bod ffocws ar weithgareddau hwyliog i'r mwyafrif.

·         Dylai fod llai o bwyslais ar sgiliau technegol.

·         Mae'n bwysig tynnu sylw at lwyddiant a chyflawniad personol a siarad amdano.

·         Mae angen i ni alluogi plant i deimlo'n bersonol gyfrifol am wneud eu hawr o weithgarwch egnïol bob dydd.

·         Mae angen i ni gyfeirio plant ysgol at weithgareddau y tu allan i'r ysgol.

 

Rolau traddodiadol wedi’u diffinio yn ôl rhyw a sut i gynyddu cyfranogiad gan ferched

·         Mae'r amser wedi newid ac ni ddylem nawr gael chwaraeon i fechgyn a  chwaraeon i ferched.

·         Mae modelau rôl sy’n fenywod yn bwysig iawn i annog merched i fanteisio ar chwaraeon a pharhau â hwy a gweithgareddau eraill.

·         Ar gyfer merched yn arbennig, mae'n rhaid i'r gweithgareddau fod yn hwyl ac yn gymdeithasol.

·         Mae angen i ni ystyried yr iaith a'r termau a ddefnyddir, hy cyfeirio at 'weithgarwch' ac nid 'chwaraeon' wrth siarad â merched.

·         Mae systemau cyfeillio yn bwysig iawn, yn enwedig i ferched.

·         Ein Sgwad  - mae tystiolaeth yn dangos bod merched yn fwy tebygol o wneud rhywbeth os oes ganddynt gyfaill.

·         Datblygodd URC yr hashnod 'dewch â’ch ffrind gorau' ar gyfer cyfryngau cymdeithasol wrth hyrwyddo digwyddiadau.

 

Y rhieni a'r teulu

·         Mae profiad rhiant yn cael effaith enfawr ar gyfranogiad a brwdfrydedd plant.

·         Mae Dr Camilla Knight (Prifysgol Abertawe) yn edrych ar brofiadau rhieni ac ymgysylltu gan rieni.

·         Mae gwir angen i ni addysgu rhieni.

·         Mae angen i ni chwalu’r disgwyliadau traddodiadol ynghylch rolau, hy gall dad fod yn hyfforddwr pêl-rwyd

·         Mae angen cymorth teuluol; ni allwch geisio gwella profiad yr ysgol yn unig.

 

Profiad yr ysgol

·         O ran profiad yr ysgol, mae angen i ni ganolbwyntio'r ymdrechion ar ysgolion cynradd, lle mae angen gwella nifer ac ansawdd y cyfleoedd.

·         Mae diwylliant ysgolion ac ansawdd y ddarpariaeth yn hanfodol.

·         Mae yna ddewis cyfyngedig o weithgareddau chwaraeon ar gael mewn ysgolion; mae angen dewis llawer ehangach.

·         Mae loteri cod post gydag ysgolion; mae arweinyddiaeth yn bwysig iawn a gall gael effaith niweidiol neu bositif.

·         Mae angen KPIs - mesur meintiol o faint mae ysgolion yn cyflawni; mesur ansoddol o'r hyn mae'r ysgolion yn ei gynnig a beth yw'r adborth gan blant.

·         Mae angen ymrwymiad cyfannol gan ysgolion.

·         Dylai ysgolion gael eu cymell i ddarparu mwy o weithgarwch corfforol.

·         Mae gofal plant ar ôl ysgol yn rhwystr i rieni; gallai ysgolion ddarparu cyfleoedd am weithgarwch ar ôl ysgol am ddim.

·         Dylid ymchwilio i ddiwrnod ysgol hwy, nid yn unig ar gyfer Addysg Gorfforol, ond dylai amser fod ar gael ar gyfer gweithgareddau corfforol a diwylliannol amrywiol.

·         Ni ddylid ystyried AG fel baich; rhaid iddo fod yn hwyl.

·         Dylid cysylltu’r Filltir y Dydd â thechnoleg, hy Fitbit y dosbarth, a chario canlyniadau drwyddo i wersi eraill i'w harchwilio, hy gwersi TG.

·         Fitbit y Dosbarth - ee faint o gamau y mae Charlie wedi'u gwneud heddiw; a allwn ni weithio allan ym mha wersi oedd ef pan gerddodd fwyaf.

·         Peilot mewn ysgol yn Sir Fynwy - mae'r adran TG wedi cynnig dronau i fonitro gweithgareddau mewn gwersi Addysg Gorfforol.

·         Dylem ymchwilio i gymell cyfraniad allgyrsiol/cyffredinol gan blant mewn gweithgarwch corfforol.

 

Rôl athrawon

·         Un brif broblem - nid yw pob athro mewn ysgolion cynradd yn athrawon AG cymwysedig, neu wedi cael hyfforddiant digonol, ac nid ydynt yn gallu darparu profiadau o ansawdd.

·         Mae lefelau gweithgarwch mewn ysgolion cynradd yn amrywiol ac yn anghyson, ac yn dibynnu ar hyfforddiant/profiad yr athro/athrawes sy’n gyfrifol.

·         Mae hyfforddi athrawon yn allweddol.

 

Y cwricwlwm

·         Mae llythrennedd corfforol yn allweddol.

·         Dylai llythrennedd corfforol gael ei ymgorffori yng nghwricwlwm yr ysgol; byddai hyn yn cyflawni'r gofynion ac yn dilyn ysbryd y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

·         Dylai chwaraeon a gweithgarwch corfforol fod yn rhan o'r cwricwlwm craidd, a'u  hasesu gan Estyn.

·         Os na chaiff ysgolion eu hasesu ar rywbeth nid ydynt yn cael eu gwthio i'w gyflawni.

·         Ni ddylai cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol gael eu cyfyngu i wersi AG.

 

Rôl grwpiau/sefydliadau chwaraeon

·         Mae grwpiau/sefydliadau chwaraeon yn canolbwyntio ar brofiadau yn y gymuned.

·         Mae angen cydweithio ar draws yr holl grwpiau chwaraeon.

·         Mae StreetGames a Parkrun yn fentrau gwych; mae angen mwy o'r rhain arnom.

·         Mae angen diffinio'r hyn y gallai pob camp ei wneud yn dda iawn i wella'r profiad cyffredin i bob plentyn.

·         Dylai ysgolion ganiatáu i grwpiau/sefydliadau chwaraeon ddod i mewn i ysgolion i gyflwyno/cefnogi dosbarthiadau.

·         Gall grwpiau/sefydliadau chwaraeon helpu gydag addysg fwy ffurfiol; gallant fynd i mewn i ysgolion i gyflwyno gwersi chwaraeon/gweithgarwch.

·         Enghraifft - cynigiodd un clwb criced yng Nghaerdydd fynd i ysgolion yng Nghaerdydd i gyflwyno gwersi criced/gweithgareddau seiliedig ar griced, ond dim ond dwy a atebodd; dywedodd un 'dim diolch' ac ni wnaeth y llall dderbyn y cynnig oherwydd nad oedd 'criced' yn rhywbeth a asesir gan Estyn.

·         Mae Chwaraeon Cymru yn gwthio llythrennedd corfforol.

·         Gallai grwpiau chwaraeon weithio gyda'r BMA a RCN i addysgu staff, a all wedyn hysbysu eu cleifion.

 

Rôl y gymuned

·         Dylem agor ysgolion i’r gymuned, a throi'r ysgol yn ganolfan.

·         Mae’r Iseldiroedd, Seland Newydd ac Awstralia yn defnyddio'r gymuned fel hyb.

·         Enghraifft wych yn Hampshire - rhoddir allweddi adeilad ysgol i fenter gymdeithasol ar ddiwedd diwrnod swyddogol yr ysgol, ac mae'r fenter wedyn yn trefnu ac yn cynnal gweithgareddau ar gyfer y gymuned. Mae gan yr enghraifft hon strwythurau cyfreithiol a llywodraethu priodol ar waith

·         Dylai ysgolion agor eu cyfleusterau i'r gymuned; gwyddom fod gwrthwynebiad gan ysgolion i wneud hyn.

·         Dylem fapio'r cyfleusterau sydd ar gael yn ein cymunedau.

·         Nid yw awdurdodau lleol yn cau cyfleusterau hamdden lleol yn helpu'r broblem ehangach.

 

Rôl technoleg a'r cyfryngau

·         Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig iawn; gwelwyd hyn eisoes yn ymchwil iechyd y cyhoedd yn America.

·         Mae angen i ni wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg.

·         Mae arnom angen ymgyrch 'darlun mawr' cenedlaethol sy'n ymddangos yn y cyfryngau traddodiadol a'r cyfryngau cymdeithasol.

·         Mae angen gwell ariannu ar Ein Sgwad i'w wneud yn ymgyrch genedlaethol sy'n mynd i mewn i bob cartref.

·         Mae angen mwy o sylw yn y cyfryngau i hyrwyddo enghreifftiau da; dangoswyd bod y darlledu ar y botwm coch wedi gweithio gyda phêl rwyd.

 

Rôl y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus

·         Mae angen i ysgolion/y llywodraeth wrando ar blant a'r hyn maen nhw am ei wneud.

·         Mae arnom angen newid ar lefel genedlaethol er mwyn cael effaith ddramatig.

·         Nid yw’r seilwaith yn ffafriol o ran beicio neu gerdded fel opsiynau cymudo.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru yn dod at ei gilydd ond mae'n rhy araf ac mae angen iddo ddigwydd yn gynt.

·         Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydlynu'r ymdrech i gysylltu pethau; nid oes ganddo ddiddordeb yn yr hyn y gall chwaraeon/gweithgarwch corfforol ei gynnig.

·         Nid yw’r Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru yn cael unrhyw effaith.

·         Nid atal yw blaenoriaeth iechyd cyhoeddus; mae'n gwrthwynebu risg yn llwyr.

·         Mae'r sector iechyd eisiau mwy a mwy o dystiolaeth bod gweithgarwch corfforol yn gweithio fel mesur atal.

·         Mae rhagnodi cymdeithasol yn bwysig; dylem gyfeirio pobl at weithgareddau yn eu hardal.

·         Mae staff rheng flaen y GIG yn adnodd nad yw’n cael ei ddefnyddio.

·         Mae'r gost yn rhwystr anferth, ond nid oes angen i'r gweithgareddau fod yn ddrud, ac mae angen i ni weithio'n ddoethach gan nad yw'n ymwneud yn llwyr â mwy o arian.

·         Mae angen labelu coch/ambr/gwyrdd ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau, hy mae 30 munud o tag yn llosgi digon o galorïau ar gyfer bar o siocled.

 

Trafodaethau gyda chynrychiolwyrDiabetes UK Cymru a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon

 

Sylwadau Cyffredinol

·         Mae technoleg ddigidol a chyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at yr argyfwng gordewdra ac amgylcheddau eisteddog, ond mae cyfle i'w defnyddio'n bositif fel cymhelliant

·         Mae angen i rieni gymryd rhan weithgar wrth gynyddu lefelau gweithgarwch eu plant, mae angen cynnwys y teulu cyfan

·         'Mae'n ymwneud â symud a pheidio â bod yn eisteddog'

 

Ysgolion

·         Mae ysgolion yn dueddol o ganolbwyntio ar blant sy'n rhagori ac yn cystadlu mewn chwaraeon elitaidd

·         'Dylai fod yn ymwneud â gweithgarwch corfforol nid chwaraeon'

·         'Mae AG nawr i lawr i 2/3 gwaith yr wythnos'

·         Mae 'ysgolion yn allweddol', angen dechrau mewn ysgolion cynradd

·         Mae gwersi gweithgarwch corfforol wedi lleihau dros amser mewn ysgolion

·         Yn Awstralia maen nhw'n gwneud awr o weithgarwch corfforol bob dydd yn yr ysgol

·         Roedd y cyfranogwyr yn hoffi'r syniad o ysgol yn rhoi cymhellion ariannol ar gyfer presenoldeb, ac efallai'n gwneud rhywbeth tebyg am fod yn gorfforol egnïol, gyda fit bits neu appiau ffôn symudol ac ati.

·         Dylai fod gan ysgolion KPI ar weithgaredd corfforol. 'Dylai Estyn fonitro lefelau gweithgarwch corfforol yn yr un modd â phresenoldeb'

·         Mae ysgolion yn gwerthu caeau chwarae yn broblem

·         Mae 'Beat the streets' yn y Cymoedd yn fenter dda i annog cerdded i'r ysgol

·         Trafodwyd ymweliad Aelodau'r Pwyllgor ag Ysgol Bassaleg lle roedd pob plentyn yn cael ei asesu ac yn cael rhaglen ymarfer wedi'i theilwra - roedd y cyfranogwyr o'r farn bod hwn yn swnio fel 'model gwych' ac y byddech wedyn yn gallu adnabod plant 'mewn perygl' a'u cefnogi

 

Data

·         Mae bylchau mawr yn y data ar lefelau gweithgarwch corfforol. Maent yn cefnogi galwadau i ymestyn y Rhaglen Mesur Plant i wella casglu data, y tu hwnt i 4-5 oed.

 

 

 

Diet

·         Mae 'deet yn broblem llawer mwy', ni ellir edrych ar weithgarwch corfforol ar ei ben ei hun, mae angen canolbwyntio ar ddiet ac ymarfer corff

·         Mae angen rheoleiddio'r diwydiant bwyd, mae rôl i Lywodraethau wrth fynd i'r afael â hyn

·         Gall deddfwriaeth gyfyngu ar y diwydiant bwyd o ran cynhwysion

·         Gall Llywodraeth Cymru osod safonau maeth mewn ysgolion a chael gwared â bwydydd sothach mewn peiriannau gwerthu cyhoeddus, ond beth am gartref?

·         Cyfyngu ar hysbysebu bwyd sothach, gwahardd archfarchnadoedd yn arddangos siocled ger y tiliau

·         Gwahardd peiriannau gwerthu bwyd sothach mewn ysgolion ac ysbytai

·         Rhowch galorïau ar fwydlenni? Gellid dysgu o sgoriau hylendid bwyd

·         Dylid dysgu gwersi o ysmygu, mae wedi denu stigma yn llwyddiannus. Angen newid diwylliant tebyg o ran diet a bod yn gorfforol egnïol.

 

Cynllunio a seilwaith

·         Mae yna bethau y gallwch eu hargymell o ran seilwaith cynllunio, llwybrau beicio a cherdded o gwmpas ysgolion ac ati

·         Cynllunio o gwmpas ysgolion, Asesiadau Effaith ar Iechyd

·         Gallu atal siopau bwyd cyflym rhag agor o amgylch ysgolion

 

Gordewdra a diabetes

·         Mae gennym y lefelau uchaf o ordewdra a diabetes mewn rhai ardaloedd, yn Nhorfaen mae'n 10% o'r boblogaeth.

·         Nodwyd y dylai'r ymchwiliad hwn fwydo i'r strategaeth ordewdra sydd ar ddod, a chynhyrchodd Cynghrair Gordewdra Cymru bapur polisi gyda 18 o argymhellion ar gyfer y strategaeth.

·         Ni wnaed unrhyw beth gyda'r llwybr gordewdra ers iddo gael ei gyflwyno yn 2010, heblaw Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol blaenorol i wasanaethau bariatrig yn 2014.

·         Dywedodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon fod 'pobl ifanc yn cael eu cyfeirio ataf gyda 75%, 80% o fraster corff ac nad oes neb wedi dweud wrthynt y byddwch yn farw o fewn 5 mlynedd' [os na fyddwch chi'n newid]

·         Mae diabetes Math 2 yn digwydd yn iau, dim ond mewn pobl dros 40 oed (a elwir yn 'dechrau yn ystod aeddfedrwydd') y byddech yn ei weld yn y gorffennol, ond rydyn ni nawr yn ei weld ymhlith plant a phobl ifanc, gwelais rywun 10 oed gyda’r clefyd.

·         Yng Nghaerdydd, nid oes unrhyw beth i gyfeirio plant rhwng 7-11 oed ato, a dim triniaeth briodol, felly os ydynt yn 7 oed [ac yn ordew, gyda diabetes math 2], byddai'n rhaid iddynt aros 4 blynedd cyn y gallent fynd ar y cynllun atgyfeirio ymarfer corff cenedlaethol. Mae’r cyffuriau ar gyfer triniaeth yn rhy ymosodol i blant ac nid oes unrhyw wasanaethau i'r ymgynghorydd pediatreg eu hatgyfeirio atynt. Mae angen cymorth llawer mwy dwys ar y plant a'r bobl ifanc hyn.

·         Bydd arbedion ataliol wrth leihau gordewdra a diabetes - ar hyn o bryd mae diabetes yn 10% o wariant y GIG, ac mae 80% o hyn yn cael ei wario ar gymhlethdodau a allai fod wedi eu rheoli gan ddiet.

·         Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl, gydag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd ac ati.

·         Mae'r negeseuon cyfredol ar ordewdra yn 'eithaf meddal' ac 'ddim yn ddigon brawychus', 'edrychwch ar y lluniau syfrdanol ar sigaréts ...', 'mae angen i ni ddefnyddio tactegau codi ofn'